Prosiect Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent

Mae gan ardal Blaenau Gwent gyfoeth o hanes a threftadaeth.  Ar draws y Fwrdeistref Sirol, mae grwpiau o wirfoddolwyr ymroddedig yn gweithio’n ddiflino i gadw a gwella hanes a threftadaeth eu cymunedau lleol.

Nod Prosiect Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent yw gwneud y dreftadaeth leol gyfoethog hon yn hygyrch i’r ystod ehangaf bosibl o bobl.  Diolch i becyn ariannu £250,00 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri , CyMAL (adran amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Llywodraeth Cymru) a Chyngor Blaenau Gwent, mae’r prosiect bellach ar waith.

Mae dau swyddog prosiect wedi ymuno â Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent, Frank Olding, i weithredu’r prosiect.  Y Swyddog Mynediad i Dreftadaeth yw Emyr Morgan, sydd wedi ymuno â’r prosiect o’i swydd flaenorol fel Rheolwr Addysg a Dehongli yng Nghanolfan Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.  Mae Morwenna Perrott, sydd wedi gweithio ar brosiect Llong Ganoloesol Casnewydd, wedi ymgymryd â rôl y Swyddog Dogfennaeth Mynediad i Dreftadaeth.

Loading...

Prosiect Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent

Mae gan ardal Blaenau Gwent gyfoeth o hanes a threftadaeth. Ar draws y Fwrdeistref Sirol, mae grwpiau o wirfoddolwyr ymroddedig yn gweithio’n ddiflino i gadw a gwella hanes a threftadaeth eu cymunedau lleol. Nod Prosiect Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent yw gwneud y dreftadaeth leol gyfoethog hon yn hygyrch i’r ystod ehangaf bosibl o bobl. Diolch i becyn ariannu £250,00 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri , CyMAL (adran amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Llywodraeth Cymru) a Chyngor Blaenau Gwent, mae’r prosiect bellach ar waith.
Teithiau Treftadaeth Blaenau Gwent 2013

25/03/2013

Tro Min Nos (Eglwys Illtud Sant a Chwm Cyffin) Graddfa: Cymedrol Dyddiad: Dydd Mawrth, Mehefin 4, 2013 Amser: 7.00 yh – 9.00 yh Cost: Am ddim Man Cychwyn/ Diwedd y Daith: Eglwys Illtud Sant, Brynithel NP13 2AY (SO 2180 0195) … read more...

Treftadaeth yn y Maes – Archwilio Archaeoleg Gwent

25/03/2013

Project Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent Ar y cyd â Phrifysgol Cymru, Casnewydd Cwrs Addysg Uwch: Treftadaeth yn y Maes – Archwilio Archaeoleg Gwent Lleoliad: Tŷ Bedwellte, Stryd Morgan, Tredegar, NP22 3XN Amseroedd: Bob bore Mawrth 10.30-12.30 NEU bob nos … read more...